Cyngor Celfyddydau Cymru | Submergence - Profiad Sinema 360º
Nôl at y rhestr newyddion

Submergence - Profiad Sinema 360º

Y drioleg gyntaf yn y byd o ffilmiau dawns, wedi'u creu'n benodol ar gyfer cyfrwng hollgynhwysol 21 Mehef 2012

Submergence - Profiad Sinema 360º

Mae Chapter yn falch iawn o gynnal lansiad Submergence - archwiliad artistig unigryw o Gymru, sy'n arddangos amrywiaeth eang o arddulliau dawns gyfoes trwy gyfrwng profiad sinema 360º arloesol ar ddydd Iau, 28 Mehefin.

Bydd y première byd eang hwn yn cyflwyno comisiynau newydd o ddarnau dawns ar ffilm gan goreograffwyr nodedig sy'n gweithio yng Nghymru – Tanja Råman, Sean Tuan John a Sandra Harnish-Lacey. Crëwyd y ffilmiau gyda chymorth criw rhyngwladol a'r artist treigl amser (ac enillydd Oscar), Bill Mitchel.

Mewn dôm cludadwy geodesig 7m o faint, caiff y drioleg gyffrous hon o ffilmiau dawns ei lapio o amgylch y gwylwyr, ac fe fydd y cwbl oll yn mynd ar daith i wyliau awyr agored, digwyddiadau a chanolfannau siopa ledled y DG a thu hwnt, o fis Gorffennaf 2012 ymlaen.

"Bydd y rhaglen unigryw hon yn gwthio ffiniau technoleg ddigidol a dawns gyfoes fel ei gilydd," meddai Carole Blade, Cynhyrchydd Dawns Greadigol. "Trwy ddefnyddio'r dôm cludadwy, mae Coreo Cymru yn cyflwyno ffordd newydd o ddangos dawns gyfoes i'r cyhoedd."

Mae Coreo Cymru, Cynhyrchydd Dawns Greadigol Cymru, yn fenter newydd a sefydlwyd ym mis Ionawr 2012, er mwyn annog a rheoli'r broses o greu a chynhyrchu gweithiau dawns newydd ac i gefnogi datblygiad artistiaid a chwmnïau o Gymru.

Cafodd y rhaglen ei chychwyn ac fe'i cefnogir yn awr gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar y cyd â'r Cynhyrchydd Creadigol, Carole Blade, a Chanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd. Mae'n cynnwys hefyd bartneriaethau â sefydliadau yng Nghymru ynghyd â phartneriaethau gyda sefydliadau a chyd-gynhyrchwyr rhyngwladol.

Nod cyffredinol Coreo Cymru yw cefnogi datblygiad a chyflwyniadau o ddawns gyfoes ac annog y cyhoedd i ymwneud â byd dawns. Mae'r rhaglen hon yn ategu'r nod hwnnw trwy ddarparu mynediad hygyrch i'r dôm a'i gynnwys, mewn ffordd unigryw a grymus. Caiff cynulleidfaoedd newydd eu targedu trwy gyflwyno gwaith mewn lleoliadau poblog megis canolfannau siopa a gwyliau awyr agored.

Gallwch weld Submergence yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ar 30 Mehefin a 1 Gorffennaf ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 14 & 15 Gorffennaf.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Sian James ar 029 2044 1344 neu e-bostiwch: sian.james@artswales.org.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245