Cyngor Celfyddydau Cymru | THEATR BARA CAWS yn cyflwyno ‘Ga’ i fod..?’ gan Madeleen Bloemendaal
Nôl at y rhestr newyddion

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno ‘Ga’ i fod..?’ gan Madeleen Bloemendaal

Natur yn galw..! Mae ein cynhyrchiad nesaf yn addo bod yn chwa o awyr iach - yn llythrennol. 18 Mehef 2012

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno ‘Ga’ i fod..?’ gan Madeleen Bloemendaal

Mi fydd y cwmni’n teithio gyda chomedi gwreiddiol am grŵp o bobol sy’n awyddus i brofi natur ar ei wylltaf mewn lleoliadau awyr agored o gwmpas y Gogledd.

Yn dilyn cyfnod o gydweithio gydag awdur o’r Iseldiroedd, Madeleen Bloemendaal, ar ei drama ‘Man op Tak’, fe fydd y cynhyrchiad yn dilyn helyntion doniol pump o unigolion sydd wedi ymgynnull dros benwythnos i fyw fel anifeiliaid. Peth od ydi trefnu i fynd yn wyllt ac mae ambell un yn llawer mwy parod i fynd yn ôl at natur na’i gilydd. Beth bynnag ddigwyddith, anghofian nhw byth mo’r profiad - yn naturiol.

Cyfarwyddwyr: Madeleen Bloemendaal a Bryn Fôn

Actorion: Rhian Cadwaladr, Iwan Charles, Carys Gwilym, Mared Elliw Huws, Merfyn Pierce Jones

Parc Glynllifon: Llandwrog, Ger Caernarfon Nos Fercher – Nos Sadwrn 11 o Orffennaf – 14 o Orffennaf 7.30 y.h. Matinee: prynhawn Sadwrn 14 o Orffennaf 3.00 y.p.

Tŷ Henblas, Bodorgan, Ynys Môn

Nos Fercher – l8 o Orffennaf - 21 o Orffennaf 7.30y.h. Matinee: prynhawn

Sadwrn 21 o Orffennaf 3.00 y.p.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bara Caws www.theatrbaracaws.com

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245