Caiff Gŵyl Undod ei threfnu gan Hijinx Theatre a bydd yn arddangos ac yn dathlu'r gorau ym maes y celfyddydau cynhwysol, y celfyddydau anabledd a'r celfyddydau anabledd dysgu o Gymru, y DU a thu hwnt, gan hyrwyddo delweddau cadarnhaol o anabledd a chynhwysiant cymdeithasol i gynulleidfaoedd.
Hon fydd y bumed Ŵyl Undod ers ei sefydlu yn 2008 a'r ŵyl gynhwysol fwyaf yng Nghymru. Bydd hefyd ymhlith un o'r prif ddigwyddiadau o'r fath yn y DU.
Mae'r ŵyl yn dathlu'r gorau o fyd adloniant celfyddydol lle gall pobl o bob gallu ddod ynghyd i fwynhau perfformiadau ysbrydoledig sy'n cynnig rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys dawns, comedi gorfforol, cerddoriaeth, arddangosfeydd, adrodd storïau, gweithdai a theatr stryd.
Eleni, diolch i arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd yr ŵyl yn fwy ac yn well nag erioed, gan roi llwyfan i gwmnïau cynhwysol rhyngwladol blaenllaw o amrywiaeth ehangach o feysydd celfyddyd, a hynny am y tro cyntaf yn y DU yn achos rhai ohonynt.
Eleni am y tro cyntaf, mae Undod yn rhan o Ŵyl Caerdydd, sef rhaglen o ddigwyddiadau a gwyliau a fydd yn digwydd dros y ddinas dros fisoedd yr haf.
Uchafbwyntiau'r Ŵyl
Ymhlith uchafbwyntiau arlwy 2012 mae The Opening a The Closing gan yr arbenigwyr comedi gorfforol Spymonkey, y digrifwr Laurence Clark o'r DU sydd wedi ymddangos ar deledu'r BBC, cwmni dawns Grupo Dançando Com a Diferença o Bortiwgal, Danza Mobile o Seville sy'n llwyfannu'r fflamenco gyda dawnswyr anabl a dawnswyr heb anabledd. Bydd Back to Back Theatre o Awstralia, sydd wedi ennill gwobrau, yn perfformio small metal objects ar Heol y Frenhines, Caerdydd. Sioe arloesol yw hon lle bydd siopwyr, yn ddiarwybod iddynt, yn cymysgu ag aelodau'r cast - sy'n cynnwys rhai ag anableddau dysgu - a bydd cynulleidfaoedd yn clywed y cyfan drwy glustffonau.
Bydd yr Ŵyl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithdai fydd ar agor i bobl anabl a phobl heb anabledd, gan gynnwys gweithdy meim gan yr awyrgampwr a'r ymarferydd theatr gorfforol Ramesh Meyyappan, gweithdy offerynnau taro gan Cerdd Gymunedol Cymru, a sesiwn Dawns Waggle i gyd-fynd â sioe blant Tin Bath Theatre a gaiff ei dehongli drwy arwyddion.
Lleoliadau
Cynhelir Gŵyl Undod ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru a fydd yn gartref i lawer o'r perfformiadau gyda Stiwdio Weston a llwyfan Glanfa yn llwyfannu llawer o ddigwyddiadau'r ŵyl. Bydd theatr stryd i'w gweld ar strydoedd Caerdydd hefyd lle gall cynulleidfaoedd gymryd rhan a mwynhau'r hwyl. Cynhelir perfformiadau stryd Back to Back ar y cyd â Sherman Cymru.
Arddangosfa Digwyddiad Rhagflas yr Ŵyl
Bydd Gŵyl Undod yn cynnal ei Digwyddiad Rhagflas cyntaf erioed eleni hefyd, a hynny yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 7 Mehefin a 30 Gorffennaf. Mae Arddangosfa Ffotograffig Juan Torre yn cynnwys delweddau sy'n wahanol i'r arfer. Mae'r ffotograffydd o Sbaen, sydd â nam ar ei olwg, wedi creu arddangosfa ffotograffig gyffyrddadwy ac arloesol o gerddorion, gan arloesi proses brintio arbenigol lle mae'n creu printiau gweadog ar raddfa fawr. Gallwch gyffwrdd â'r delweddau a thrwy hynny synhwyro'r manylyn lleiaf, o'r marciau ar wynebau pobl i'r blew ar eu breichiau, sy'n rhoi dimensiwn arall i'r rhai sy'n ymweld â'r arddangosfa yn ychwanegol at yr elfen weledol arferol.
Mae Ben Pettitt Wade, Cyfarwyddwr Gŵyl Undod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddigwyddiadau'r ŵyl eleni "Mae'n bleser gennyf groesawu rhai o berfformiadau cynhwysol gorau'r byd i Gaerdydd ar gyfer Undod 2012. Bydd cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau acrobatiaid o Marseille, fflamenco o Seville, drama anweledig arloesol ar stryd siopa brysuraf Caerdydd ac ymweld â chwch gwenyn anferth o flaen Canolfan Mileniwm Cymru - felly mae rhywbeth at ddant pawb."
Meddai Louise Miles-Crust, Rheolwr Rhaglen Artistig Canolfan Mileniwm Cymru "Mae'n bleser gennym weithio gyda Hijinx Theatr ar Ŵyl Undod 2012. Mae'r arlwy yn wych gyda chwmnïau fel Back to Back a Laurence Clark. Bydd y Ganolfan yn fwrlwm o gyffro drwy'r wythnos gyda gweithdai a pherfformiadau yn Stiwdio Weston ac ar lwyfan Glanfa ac eleni, y tu allan i'r adeilad hefyd. Does wybod beth y byddwch yn dod ar ei draws yn ystod yr wythnos!"
Ariannu'r Ŵyl
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhoi £100k i'r ŵyl eleni sy'n golygu bod yr ŵyl yn llawer mwy o faint. Mae wedi galluogi Hijinx Theatre i wahodd mwy o gwmnïau perfformio i gymryd rhan a chyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl drwy'r adloniant a gynigir.
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru
"Mae'n bleser gennym helpu Hijinx Theatre i lwyfannu'r Ŵyl Undod unigryw.Gŵyl gelfyddydol ryngwladol yw'r Ŵyl yn ei hanfod. Ond hefyd dyma'r unig ŵyl o'r fath yn y DU, sy'n cyflwyno celfyddyd a pherfformiadau a gaiff eu creu gan bobl ag anableddau a phobl heb anabledd sy'n gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd gyfartal. Bydd yr ŵyl yn cynnig syniadau newydd a phrofiadau celfyddydol newydd, gan ddangos dychymyg a chreadigrwydd ym mhob un o'i meysydd amrywiol."
Mae tocynnau ar gyfer Gŵyl Undod ar gael o'r swyddfeydd tocynnau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 029 20636464 a (Back to Back) Sherman Cymru 02920646900 ac maent ar werth o heddiw ymlaen.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd yn www.wmc.org.uk/unity