Cyngor Celfyddydau Cymru | Sioe newydd i'r gwely llysiau agosaf
Nôl at y rhestr newyddion

Sioe newydd i'r gwely llysiau agosaf

Ynghanol Mehefin teithia enillydd Gŵyl Caeredin, 'Allotment' (Nutshell Theatre), o amgylch y De a'r Gorllewin gan gyfleu perthynas od y chwiorydd Dora a Maddy ar gefndir eu llain o dir. 14 Mehef 2012

Sioe newydd i'r gwely llysiau agosaf
Nutshell Theatre ALLOTMENT

Ar ben y sied ac ymhlith y chwyn digwydd y ddrama rhwng y ddwy sy'n ymladd dros dedis a gofyn y cwestiwn bythwyrdd: pa rai yw'r pwysicaf - blodau ynteu llysiau?

Dathla'r gomedi dywyll hon arddio, marw, tatws a mwydod. Er gwaethaf y tywydd (y trydydd cymeriad) â'r sioe ymlaen. Ac yn y tywydd garw, gofala'r cast am y gynulleidfa gyda phaned a sgonsen jam a wnaed o gynnyrch gardd y Cyfarwyddwr Artistig.

Trefnwyd ac ariannwyd y sioe gan gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru, Noson Allan. Dechreua'r daith yn Eglwys Joseff Sant, Cwmaman, Aberdâr ddydd Sul 17 Mehefin ac â i Fferm Gymunedol Abertawe ar 19 Mehefin a Gardd y Capel Wesleaidd, Cefncribwr ar 20 Mehefin. Â i'r Canolbarth wedyn i'r Maes Gerddi yn Llangatwg, Powys ar 22 Mehefin a'r Ardd Wal Adnewyddu yn y Bontnewydd ar Wy. Ddydd Sul 24 Mehefin ym mhrosiect Lleoedd a Dyf yn Llwynhendy ger Llanelli fydd y perfformiad olaf yng Nghymru.

Dywed Pennaeth Noson Allan, Peter Gregory:

'Rhoddwn gymorth i sicrhau y digwydd perfformiadau proffesiynol yng nghanol ein cymunedau - yn ein neuaddau pentref a'n canolfannau cymunedol. Ond perfformir y sioe hon mewn lleoliadau sy'n fwy anarferol byth.'

Am ragor o wybodaeth am y daith a'r hyrwyddwyr ewch i www.nosonallan.org.uk.

Perfformir y sioe hefyd yng Ngardd Gymunedol Chapter ddydd Sadwrn 16 Mehefin.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245