Cyngor Celfyddydau Cymru | Yr Awyr Agored Mawr 2012
Nôl at y rhestr newyddion

Yr Awyr Agored Mawr 2012

‘Yr Awyr Agored Mawr 2012’ – Cynhadledd Genedlaethol gyntaf Cymru ar Berfformiadau Awyr Agored fis Hydref eleni – cyhoeddi enwau siaradwyr enwog a thocynnau ar werth nawr. 25 Mehef 2012

Yr Awyr Agored Mawr 2012

Galwn ar holl Ymarferwyr, Arianwyr, Gwyliau a Lleoliadau ym maes Celfyddydau Awyr Agored yng Nghymru – dyddiad pwysig i’ch dyddiadur! Ar 12fed Hydref eleni, bydd Articulture Cymru yn cyflwyno ‘Yr Awyr Agored Mawr 2012’, Cynhadledd Genedlaethol gyntaf Cymru ym maes Perfformiadau Awyr Agored, ym Machynlleth, Canolbarth Cymru.

Lluniwyd y digwyddiad gan siaradwyr allweddol o fudiadau blaenllaw yn y maes, fydd hefyd yn annerch y gynhadledd – gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Rhwydwaith Celfyddydau Stryd Annibynnol, Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Walk The Plank’, ‘Citrus Arts’, ‘Emergency Exit Arts’, a Syrcas NoFitState. Nod yr Awyr Agored Mawr yw ysgogi gweithiau newydd uchelgeisiol o bob math ym maes celfyddydau awyr agored yng Nghymru, trwy roi llwyfan i rwydweithio, rhannu a datblygu syniadau, cael hyd i gyllid a meithrin cydweithio. Bydd yn cynnwys theatr stryd, carnifal, gorymdeithio, theatr bypedau, syrcas a gosodiadau celf.

Sefydlwyd yr Awyr Agored Mawr er mwyn uno ymarferwyr ym maes celfyddydau agored yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd ar wasgar ar hyd a lled Cymru gyfan. Mae’n cydnabod, er gwaethaf bodolaeth adnodd hynod o artistiaid a mudiadau llwyddiannus, a chyllid ar gyfer y maes yng Nghymru, bod angen mynd i’r afael â’r gwasgariad yma er mwyn sicrhau dyfodol bywiog ar gyfer Perfformiadau Awyr Agored yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle ar y gynhadledd, ewch at - www.articulture-wales.co.uk neu www.facebook.com/ArticultureWales

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245