Cyngor Celfyddydau Cymru | Cipio'r Castell
Nôl at y rhestr newyddion

Cipio'r Castell

Castell Caernarfon. Dydd Sul. Gorffenaf 1. 2.30-4.30pm 29 Mai 2012

Cipio'r Castell

Bydd rapwyr, dylunwyr digidol, cyfansoddwyr, pobol ffilm, actorion, sgriblwyr, cerddorfa a chor enfawr - oll yn bobl ifainc - yn dod at eu gilydd yng Nghastell Caernarfon am gyfres drawiadol o osodiadau a pherfformiadau byw sy’n dathlu goresgyn y castell gan y Cofis eu hunain. Ysbryd Owain Glyndwˆ r sydd y tu ôl i Gipio’r Castell - y ddraig yn cysgu yw symbol Glyndwˆ r. Cewch sioc o weld y digwyddiadau annisgwyl.

Bydd y digwyddiad yn dechrau yn y Maes am 2.30yh.

Mynediad am ddim gyda band arddwrn Cipio’r Castell.

Ar gael o 1 Mehefin drwy fynd i’r wefan: www.visitcsnowdonia.info neu drwy alw hebio i Ganolfan Groeso Caernarfon yn Oriel Pendeitsh, Stryd y Castell, Caernarfon LL55 1SE.

T: 01286 672232.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245