Cyngor Celfyddydau Cymru | Orchard i redeg Jas Aberhonddu
Nôl at y rhestr newyddion

Orchard i redeg Jas Aberhonddu

Heddiw cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys mai Orchard a lwyddodd gael rhedeg Jas Aberhonddu. 01 Mai 2012

Orchard i redeg Jas Aberhonddu

Cafwyd proses drylwyr o chwilio am hyrwyddwr â'r cymwysterau busnes ac artistig a'r ddawn entrepreneuraidd i gynnal gŵyl lwyddiannus. Enillodd Orchard ac maent yn barod i gymryd yr awenau.

Mae'n ddigwyddiad diwylliannol pwysig i Aberhonddu a Chymru ac yn ased i'r economi leol. Daw pobl o bob cwr o'r byd i brofi'r awyrgylch arbennig yno.

Arweiniwyd y broses gan Gyngor y Celfyddydau mewn partneriaeth â Chyngor Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog. Teimlai pawb fod rhaglen Orchard yn un gyffrous ac argyhoeddiadol â syniadau gwahanol ar gyfer y dyfodol. Caiff Orchard ymrwymiad gennym i ariannu'r ŵyl eleni ac yn hydref eleni cyflwyna ei gynlluniau ar gyfer 2013.

Meddai Pablo Janczur, Cyfarwyddwr Orchard:

'Mae Jas Aberhonddu yn frand treftadaeth ag enw da dros y byd. Rydym yn hyrwyddwyr cerddoriaeth a rheolwyr digwyddiadau ac yn ffoli ar yr ŵyl. Mae'n gyffrous iawn inni gael y cyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad. Rhannwn ag awch ein syniadau gyda phobl Aberhonddu a'r byd jas maes o law.'

Rydym yn hapus iawn i ymgymryd â'r ŵyl a dathlu cyfoeth jas yng Nghymru.'

Yno bydd:

  • artistiaid ac unigolion creadigol o safon sydd ag apêl eang
  • rhaglen sy'n cryfhau treftadaeth Jas Aberhonddu yng Nghymru a'r byd
  • y cyfle i roi egni a chyfeiriad newydd i'r ŵyl - i bobl Aberhonddu, Cymru, sefydliadau jas, y celfyddydau ac addysg

Meddai David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru:

'Cwmni digwyddiadau o Gymru yw Orchard a lwyddodd i'n perswadio o'i gynhwysedd a'i frwdfrydedd. Roedd ei syniadau'n ddeinamig a sylwasom ar ei uchelgais a'i barch at yr ŵyl.'

Meddai Paul Griffiths, Cyfarwyddwr Strategol - Cymunedau, Sgiliau ac Addysg, Cyngor Sir Powys:

'Gwyddom o'r gorau am gyfraniad yr ŵyl at fywyd diwylliannol Powys dros y blynyddoedd. Rydym am sicrhau ei pharhad. Mae'n bwysig nid yn unig i dref Aberhonddu a Phowys, ond i Gymru gyfan. Rydym wrth ein boddau i weithio â Chyngor Celfyddydau Cymru i sicrhau y gwêl 2012 bennod newydd yn hanes yr ŵyl.'

Yn yr wythnosau a ddaw, cynnal Orchard lansiad lleol o'i gynlluniau yn Aberhonddu.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Betsan Moses, Pennaeth Cyfathrebu, Cyngor Celfyddydau Cymru

Ffôn uniongyrchol: 029 20 441 307
Symudol: 07970 751057

Neu

Tim Powell, Orchard

Ffôn uniongyrchol: 02920 590334
tim@thinkorchard.com

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245