Cyngor Celfyddydau Cymru | Canolfan Mileniwm Cymru 20/07/2012

Ychwanegwch fi at y Cyfeiriadur Celf!

Mewngofnodi / Cofrestru
Canolfan Mileniwm Cymru 20/07/2012

Mzansi Cymru: Torchbearers Theatr
Donald Gordon Mzansi Cymru - yn cysylltu De Affrica a Chymru
Wedi'i gynhyrchu ar y cyd gan Canolfan Mileniwm Cymru a Valleys Kids


20 Gor - 21 Gor 2012


Tocynnau £10- £22


Canllaw Oed: 8+


Mae’n bleser gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Valleys Kids gyflwyno Torchbearers, saga epig gaiff ei hadrodd gan bobl o drefgorddau De Affrica a chymoedd De Cymru mewn perfformiad croes-diwylliannol sy’n cyfuno drama, cerddoriaeth, syrcas a dawns.


Hanes actor ifanc o Gymru a dawnsiwr o Affrica ym 1964 yw hwn, sy’n cael y cyfle i fyw breuddwyd wrth ennill rhannau yn y ffilm Zulu. Wrth i’r ddau ifanc ddod yn nes at ei gilydd, maen nhw’n cwympo mewn cariad - ond bydd system yr apartheid yn rhwygo’u bywydau ar wahân. Dydyn nhw ddim yn gweld ei gilydd eto hyd nes i ffawd chwarae rhan tua 40 mlynedd yn ddiweddarach.


Mae cymunedau Cymoedd De Cymru a threfgorddau De Affrica yn dod â’r stori ysbrydoledig yma am gariad yn fyw wrth i dyrfa o leisiau, cerddorion a pherfformwyr y Cymoedd ymuno â grwpiau anhygoel o Dde Affrica, fel cwmni syrcas Zip Zap, Dance for All, Amampondo a Chôr Fezeka, i adrodd dwy ochr i’r stori.


Tocynnau: http://www.wmc.org.uk/Productions/2012-2013/18959/Torchbearers/?view=Standard&lang=cy-GB

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245