Agorodd Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac mae eisoes wedi meithrin enw iddi’i hun fel un o gyrchfannau celfyddydol a diwylliannol eiconig y Byd. Gweledigaeth y Ganolfan yw bod yn lleoliad diwylliannol rhyngwladol o bwys ac yn ganolfan i'r celfyddydau perfformio, yn enwog am ei hysbrydoliaeth, ei rhagoriaeth a'i harweinyddiaeth.
Amdanom Ni
Ein Gweledigaeth
Yr Adeilad
Y Ganolfan yn cyflwyno
Hoffwn Ni Ddiolch i...
Gwobrau
Ein pobl
Yr Amgylchedd
Cwestiynau Cyffredin am y Wefan
Gwaith
Ffeithiau ac Ystadegau Amdanom Ni
Agorodd Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac mae eisoes wedi meithrin enw iddi’i hun fel un o gyrchfannau celfyddydol a diwylliannol eiconig y Byd. Gweledigaeth y Ganolfan yw bod yn lleoliad diwylliannol rhyngwladol o bwys ac yn ganolfan i'r celfyddydau perfformio, yn enwog am ei hysbrydoliaeth, ei rhagoriaeth a'i harweinyddiaeth.
Y Ganolfan yw un o ganolfannau mwyaf unigryw a bywiog Ewrop i'r celfyddydau perfformio, a agorwyd gan Ei Mawrhydi'r Frenhines yn 2004. Edrychwch heibio'r muriau allanol anhygoel, sydd wedi ymddangos ar Torchwood a Dr Who, a chewch brofi awyrgylch gyffrous sy'n gwneud i'n hymwelwyr ddychwelyd aton ni dro ar ôl tro.
Rydyn ni'n fwy na theatr. Mae'n hymwelwyr yn dod i fwynhau sioeau cerdd gorau'r West End, opera, ballet a dawns gyfoes, hip hop a digrifwyr, arddangosfeydd celfyddydol, gweithdai, diwrnodau hyfforddi, perfformiadau dyddiol rhad ac am ddim yn y cyntedd, teithiau tywys, bariau a bwytai ... mae rhywbeth at ddant pawb.