Gallwch ymweld â'r arddangosfa, Ewch Ati, o weithiau celf gan bobl ifainc anabl yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd, 16-29 Gorffennaf.
Dyma ffrwyth ein cystadleuaeth lle cawsom dros 300 yn cymryd rhan. Bydd enillwyr yn y categorïau canlynol: dyfrlliw, cerameg, mwydion papur a ffotograffiaeth.