Cyngor Celfyddydau Cymru | Dyfarniadau Cymru Greadigol 2012
Nôl at y rhestr newyddion

Dyfarniadau Cymru Greadigol 2012

Neithiwr (22 Mawrth 2012) cafodd 22 artist proffesiynol ar draws y celfyddydau grant Cymru Greadigol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru mewn derbynwest yng Ngaleri, Caernarfon. 23 Maw 2012

Dyfarniadau Cymru Greadigol 2012
Hallow Promise
Simon Fenoulhet

Ariennir Dyfarniadau Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Loteri a chynigir hyd at £25,000 i artistiaid Cymru bob blwyddyn. Yn 2011/12 cafodd yr 22 artist gyfanswm o £400,000. Gan gydnabod cyfraniad artistiaid, cynyddodd y Cyngor yr arian sydd ar gael i'r grantiau cystadleuol iawn gan £50,000 eleni. Mae'r grantiau'n galluogi'r artistiaid i arbrofi, mentro a chymryd eu gwaith ymlaen. Bwriad y grantiau yw datblygu rhagoriaeth drwy gynnig cyfnod o ymchwil a datblygiad i rai o artistiaid mwyaf diddorol Cymru.

Cadeiria David Alston Cyfarwyddwr Celfyddydau'r Cyngor, banel o Ymgynghorwyr Cenedlaethol, swyddogion y Cyngor a Llenyddiaeth Cymru sy'n dyfarnu'r grantiau. Cyfeiriodd David Alston at y safon eithriadol o uchel ymhlith y rhai a gafodd grantiau eleni:

"Roedd gan y panel dasg drom ond pleserus. Mae nifer o'n hartistiaid yn gwthio'r ffiniau. Dyna'r hyn y gall dyfarniad Cymru Greadigol ei gynnig - cyfle i unigolion archwilio er elw'r celfyddydau'n gyffredinol."

Y rhai a gafodd Grantiau Cymru Greadigol 20011/12 oedd:


Prif Grantiau Cymru Greadigol:

Dawns: Jo Shapland, Simon Whitehead

Drama: Steve Davis

Llenyddiaeth: John Williams

Cerddoriaeth: Lynne Plowman, Neil Yates

Y Celfyddydau Gweledol: Simon Fenoulhet, Miranda Whall, Craig Wood


Grantiau Cymru Greadigol (hyd at 12,000):

Celfyddyd Gymhwysol a Chrefft: Becky Adams, Duncan Ayscough, Ainsley Hillard, Jessica Lloyd-Jones, Tilla Waters

Dawns: Sandra Harnisch-Lacey

Drama: Jain Boon

Cerddoriaeth: John Rea

Y Celfyddydau Gweledol: Paul Emmanuel, Helen Griffin, Mark Gubb

Enwebir grantiau Llysgenhadon Cymru Greadigol a chydnabyddant gyflawniad unigol arwyddocaol ym maes y celfyddydau â'r nod o godi proffil ein diwylliant y tu allan i Gymru. Eleni roeddem wrth ein boddau i roi 2 grant, un i Claire Curneen ac un i Pamela Rawnsley. Caiff Claire y cyfle i archwilio casgliad helaeth Amgueddfa Iwerddon gan weithio'n agos gyda'i swyddogion i ddeall rhai gwrthrychau ac adlewyrchu hynny mewn gweithiau newydd. Caiff Pamela ymchwilio a chynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i amgylchfyd hollol wahanol - De Awstralia.

Llongyfarchodd yr Athro Dai Smith, Cadeirydd y Cyngor, yr artistiaid a enillodd grantiau eleni:

"Mae'n bleser inni allu cynyddu'r grantiau yn y dyddiau dreng hyn. Dyma un o uchafbwyntiau calendr celfyddydau Cymru. Credwn mewn cymryd risgiau ac nid oes dim yn fwy cyffrous na buddsoddi yng nghreadigrwydd unigolion difyr a heriol sy'n bywiogi'n cymdeithas. Bydd elw mewn sawl ffordd o'r buddsoddiad hwn. Darparwn o hyd gyfle ac amser i ddatblygu'r talentau eithriadol hyn. "

Am ragor o wybodaeth a chyfle i gyfweld â'r artistiaid cysylltwch â Siân James, ar 07812 801356.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245