Digwydd sawl prosiect ledled Cymru yn ystod mis Mawrth - gan Theatr Na N’Og o Gastell-nedd, Theatr Likely Story o Gaerdydd, Theatr Pypedau Pickled Image o Fryste a grŵp dawns Zulu o Simbabwe.
Bu'r hyrwyddwyr yn gweithio gyda hwyluswyr dros yr wythnosau diwethaf i drefnu digwyddiadau yn eu cymunedau megis gosod pris y tocynnau, pennu amseroedd, dylunio posteri, gwahodd pwysigion, ysgrifennu datganiadau i’r wasg a marchnata'r digwyddiad. Bydd y plant a phobl ifainc gweithgar ac ymroddgar yn rheoli'r sioe ar y noson gan redeg y swyddfa docynnau, dangos pobl i'w seddi a sicrhau bod gan y perfformwyr popeth sydd arnynt ei angen. Daw pob un o'r grwpiau o Hyrwyddwyr Ifainc o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf yng Nghymru ac ychydig o brofiad yn unig ganddynt neu ddim o gwbl ym maes perfformiadau byw yn enwedig yn eu cymunedau eu hunain. Felly mae'n gyfle gwych i gymunedau difreintiedig weld perfformiadau byw fforddiadwy o safon. Mae'r sesiynau hefyd yn gyfle i grwpiau brofi'r swyddi yn y celfyddydau gyda thaith a arweinir y tu ôl i'r llenni mewn theatr leol. Bu Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn arbennig o gefnogol gan gynnig teithiau cyffrous o'r theatr ac ymunodd Theatr Elli, Llanelli a Galeri, Caernarfon yn ddiweddar â'r cynllun gan gynnig teithiau hefyd.
Meddai Rheolwr Noson Allan, Peter Gregory:
"Am y pum mlynedd diwethaf buom yn cynnal prosiectau Noson Allan ar raddfa fechan ond gyda'r grant gan Ymddiriedolaeth Stadiwm y Mileniwm gallem gynnwys hwyluswyr ar eu liwt eu hunain ac estyn y cynllun ledled Cymru. Mae'n gyffrous iawn i weld y cynllun yn tyfu a chael effaith ar fywyd cynifer o blant Cymru".
Ychwanega Hilary Farr, Swyddog Datblygu Noson Allan:
"Mae digwyddiadau Hyrwyddwyr Ifainc yn wych iawn a hoffwn annog pawb i fynd i o leiaf un i rannu llawenydd y plant fel y tyfant mewn hunanhyder o flaen ein llygaid a chyfunir hyn â'r rhyfeddod yn eu hwynebau wrth iddynt brofi am y tro cyntaf berfformiad byw, agos a phersonol - erys hyn gyda chi am fyth!"
Dechreua'r prosiectau ym Mawrth 2012 gyda grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Woodlands, Draenen Pen-y-graig, Cwmbrân ddydd Mawrth 20 Mawrth a'u cynhyrchiad lliwgar o Aesop's Fables gan Theatr Na N’Og. Ceir Aesop's Fables yng Nghanolfan Eglwys Noddfa yng Nghaernarfon ar 22 Mawrth a drefnir gan grŵp o Gofis Bach. Ar 27 Mawrth bydd tri digwyddiad: Canolfan Rhys ym Mhen-rhys yn y Rhondda lle cynnal y Penrycans 'Once upon a time' gan Likely Story; Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes lle mae aelodau gweithgar a dychmyglon y chweched yn cynnal perfformiad gan Zulu; Ysgol Gynradd Bigyn yn Llanelli lle daw'r Blaidd Mawr Drwg i glirio ei enw yn "Wolf Tales" gan Pickled Image.
Ymwêl y Blaidd ag Ysgol Gynradd Croeserw yng Nghastell-nedd Port Talbot ar 28 Mawrth gyda chymorth hyrwyddwyr blwyddyn 5 a 6 a bydd adroddwyr sy'n hedfan drwy amser yn 'Once upon a time' yn gweithio â disgyblion blwyddyn 3 a 4 i ddiddanu Ysgol Gynradd Blaentyleri ar 29 Mawrth. Croesawa Menter Chwarae Bon-y-maen pyncs ager Likely Story i'r Ganolfan Gymunedol leol yn Abertawe am 'Once upon a time' unwaith eto ddydd Gwener 30 Mawrth. Mae partneriaeth hir Noson Allan â Heddlu Gwent hefyd yn cynnal prosiect ar gyfer grŵp o blant ifainc iawn o Ysgol Gynradd Trephilip yng Nghaerffili gyda Likely Story ar 28 Mawrth.
Bydd digwyddiadau Hyrwyddwyr Ifainc ymlaen yn y lleoedd canlynol:
4.30pm 20 Mawrth Aesop's Fables gan Theatr Na n'Óg yn Ysgol Woodlands. Draenen Pen-y-graig, Cwmbrân
6pm 22 Mawrth Aesop's Fables gan Theatr Na n'Óg yng Nghanolfan Eglwys Noddfa. Caernarfon
6pm 27 Mawrth Wolf Tales gan Pickled Image yn Ysgol Gynradd Bigyn, Llanelli
6.30pm 27 Mawrth Once upon a time gan Likely Story yng Nghanolfan Pen-rhys
7pm 27 Mawrth Zulu yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes
6.30pm 28 Mawrth Wolf Tales gan Pickled Image yn Ysgol Gynradd Croeserw, Castell-nedd Port Talbot
6.30pm 28 Mawrth Once upon a time gan Likely Story yn Ysgol Gynradd Trephilip, Tredegar Newydd
6.30pm 29 Mawrth Once upon a time gan Likely Story yn Ysgol Gynradd Blaentyleri, Abertyleri
7pm 30 Mawrth Once upon a time gan Likely Story yng Nghanolfan Gymunedol Bon-y-maen, Abertawe
Mae manylion cyswllt yr hyrwyddwr a gwybodaeth bellach am y sioeau ar wefan Noson Allan: www.nosonallan.org.uk