Cyngor Celfyddydau Cymru | Chwedl Clytemnestra trwy lygaid cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, yw cynhyrchiad newydd Sherman Cymru
Nôl at y rhestr newyddion

Chwedl Clytemnestra trwy lygaid cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, yw cynhyrchiad newydd Sherman Cymru

Cyflwynir cynhyrchiad newydd mawreddog Sherman Cymru, sef chwedl afaelgar Clytemnestra, yn y theatr yng Nghaerdydd o 18 Ebrill tan 5 Mai. 16 Maw 2012

Chwedl Clytemnestra trwy lygaid cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, yw cynhyrchiad newydd  Sherman Cymru
Gwyneth Lewis

Clytemnestra yw’r cynhyrchiad Saesneg cyntaf i Sherman Cymru ei gomisiynu ers ail-agor ym mis Chwefror. Bu’r adeilad ar gau am gyfnod o ddwy flynedd ar gyfer gwaith ailddatblygu sylweddol o £6.5 miliwn. Bydd y cynhyrchiad yn un pwysig, gan arddangos dull dramatig y bardd Gwyneth Lewis o adrodd stori, a gwaith cyfarwyddo beiddgar Amy Hodge (Measure for Measure).

Dyma’r ddrama lwyfan gyntaf i Gwyneth Lewis ei hysgrifennu. Hi oedd Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2005-06, a’i geiriau hi a welir mewn llythrennau chwe throedfedd o uchder ar flaen adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.

Daw stori Clytemnestra o’r chwedlau Groegaidd, ac ynddi gwelir y natur ddynol ar ei mwyaf nwyfus ac amrwd. Ymddangosodd Clytemnestra yn nramâu Aeschylus yn y bumed ganrif CC, lle gwelir gwreiddiau’r theatr Orllewinol. Mae trasiedi Roegaidd yn cynnwys themâu megis godineb, pŵer a dialedd, themâu sy’n parhau i ddylanwadu ar y ddrama gyfoes, hyd yn oed ar yr opera sebon.

Mae stori Clytemnestra yn dangos y natur ddynol wedi ei gwthio i eithafion yn sgil rhyfel a newyn. Lleolir y ddrama nid nepell yn y dyfodol: mae’r olew wedi darfod, a rhaid rhyfela am fwyd. Mae Agamemnon, pennaeth ei lwyth, wedi bod oddi cartref yn diogelu llwybrau masnach newydd. Er mwyn ffurfio cynghrair newydd mae wedi rhoi ei ferch, Iphigenia, i’w phriodi i lwyth o’r dwyrain. Cafodd ei threisio a’i llofruddio, ac mae wedi gyrru ei llwch yn ôl adref at Clytemnestra ei wraig, ac Electra eu merch arall. Daw ymgyrch Agamemnon i ben gyda chwymp Caerdroea. Mae’r Ellyllesau, duwiau hynafol dialedd, yn ceisio dylanwadu ar y digwyddiadau ac yn mynnu gwaed am waed. Pa mor bell bydd Clytemnestra’n fodlon mynd er mwyn cyfiawnder?

Mae Gwyneth Lewis yn edrych ymlaen at weld ei drama gyntaf ar y llwyfan. "Mae wedi bod yn antur artistig anferth defnyddio chwedl Roegaidd i drafod pynciau cyfoes fel prinder, cyfiawnder a dialedd. ‘Rwyf wedi bod yn ymwybodol o ddramâu Groegaidd ers degawdau, ac mae gweithio gyda nhw fel chwistrelliad mawr o adrenalin barddol. Nid ydynt yn dyddio, ac maent yn arddangos y meddwl dynol ar ei fwyaf amrwd – yn llawn lliw, ar ei ddoniolaf a mwyaf arswydus. ‘Rwy’n ddiolchgar iawn i Sherman Cymru alluogi i mi fynd ar y fath daith."

Mae’r stori’n ddelfrydol ar gyfer creu cynhyrchiad llawn dychymyg mewn lleoliad ffrwydrol, gyda sain a gwaith symud dramatig. Mae’r tîm cynhyrchu creadigol grymus yn cynnwys y Cynllunydd Groegaidd, takis, y Cyfansoddwr a’r Cynllunydd Sain, Simon Thorne, y Cynllunydd Goleuo, Lee Curran, a’r Coreograffydd, Johan Stjernholm. Ganddynt hwy mae’r dasg o fynd â’r gynulleidfa i fyd peryglus, llwglyd Clytemnestra.

Meddai’r Cyfarwyddwr, Amy Hodge: "Mae’n ddarn rhagorol o ysgrifennu, ac mae gennym gast gwych a thîm creadigol talentog. Fedrai ddim aros i fynd i’r ystafell ymarfer i greu cynhyrchiad sy’n theatrig ddeinamig, yn weledol hardd, ac yn emosiynol wir. Mae Gwyneth wedi creu byd ffyrnig, dirdynnol, cyffrous ble mae unrhywbeth yn bosib. Mae mor braf gweld dramâu newydd mor uchelgeisiol ar brif lwyfan Sherman Cymru"

Mae’r cast rhagorol yn cynnwys actorion sy’n adnabyddus am eu gwaith llwyfan a theledu gan gynnwys Jaye Griffiths fel Clytemnestra (Silent Witness, Doctors, The Bill), Nick Moss (Birdsong) Rhian Blythe (enillydd gwobr yr Actores Lwyfan Orau am ei pherfformiad yng nghynhyrchiad hynod llwyddiannus Sherman Cymru, Deep Cut), Matthew Bulgo, (Theatr Dirty Protest) Kezrena James (Crash), Nia Gwynne (Casualty, Eastenders), Adam Redmore (The Bill), Jonah Russell (Stop The World) ac Eiry Thomas (Belonging, Stella).

Gellir archebu tocynnau ar gyfer Clytemnestra ‘nawr. £15-£25 yw pris y tocynnau (rhag-ddangosiadau £12-£20 a hanner pris i’r rhai Dan 25 mlwydd oed). Maent ar gael o Swyddfa Docynnau Sherman Cymru ar 029 2064 6900 neu ar-lein ar www.shermancymru.co.uk

Am ragor o wybodaeth ar gyfer y wasg, neu ddelweddau/lluniau, neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch â: Penny James ar 029 20766 599 penny.james@btopenworld.com neu Suzanne Carter ar 02920 646 967 suzanne.carter@shermancymru.co.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245