Theatr Hijinx yw un o brif gwmnïau proffesiynol teithio ar raddfa fechan yng Nghymru. O’n cartref yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ’rydym yn teithio gyda theatr wreiddiol, o ansawdd uchel yn Saesneg i gymunedau ar hyd a led y DU, gan gyflwyno storïau a chymeriadau sy’n ddoniol, deimladwy, heriol ac yn codi’r ysbryd.
Mae Hijinx wedi ymrwymo’n angerddol i fod ar y blaen wrth gynnwys pobl â phroblemau dysgu yn y celfyddydau ac i greu ystod eang o gyfleoedd am gymryd rhan. Yn 2007 sefydlodd Hjinx Wyl Undod, gwyl ryngwladol y celfyddydau sy’n cyflwyno’r celfyddydau cynhwysol ar eu gorau i lwyfan llawn bri Canolfan y Mileniwm Cymru. Yn 2012 bydd Undod yn cymryd drosodd dau safle gydag un man newydd ar gyfer perfformio ar Stryd y Frenhines yng nghanol Caerdydd.
Yn 2012, lawnsiodd Hijinx ddau gwrs hyfforddi wythnosol ar gyfer perfformwyr ag anableddau dysgu: Dewisiadau Creadigol ac Academi Hijinx. Am fwy o fanylion am y naill a’r llall, rhowch alwad ffôn i swyddfa Hijinx ar 02920 300331.