Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe wedi ennill ei phlwyf fel un o ganolfannau diwylliannol gorau De Cymru.
Mae'r theatr hyfryd yn llwyfannu gwaith proffesiynol o'r radd flaenaf, sy'n amrywio o gerddoriaeth glasurol i ddrama a dawns, llenyddiaeth a theatr plant i'r blws a cherddoriaeth byd. Mae rhywbeth at ddant pawb.