Mae’r arddangosfa hon yn archwilio thema newid yn yr hinsawdd; un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r byd heddiw. Gydag oblygiadau nid yn unig ar gyfer cydbwysedd ecolegol bregus y blaned, ond hefyd ar gyfer cymdeithas ddynol, bydd y camau a gymerwn yn awr yn ein bywydau bob dydd yn effeithio ar ein dyfodol ni a dyfodol ein plant hefyd. Mae’r gwaith a geir yn yr arddangosfa’n adlewyrchu’r modd y bydd artistiaid unigol yn ystyried y pwnc; wedi eu hysbrydoli, efallai, gan newidiadau a welwyd yn eu hamgylchedd lleol neu’n genedlaethol.
Wedi ei drefnu gan yr International Feltmakers Association, Filz-Netzwerk e.V (Yr Almaen) a Coordinamento Tessitori (Yr Eidal), detholwyd 50 o artistiaid o 12 gwlad o gyfanswm o 180 o geisiadau a gyflwynwyd i banel o feirniaid proffesiynol annibynnol. Agorodd yr arddangosfa yn y Museo del Tessuto, Prato, Yr Eidal ym mis Mai 2010 cyn mynd ar daith o amgylch Yr Almaen tan fis Chwefror 2011. A nawr mae ar daith o amgylch y DU tan fis Mehefin 2012.
I gyd-fynd â’r arddangosfa ceir catalog lliw llawn sy’n edrych ar bob artist a’u gwaith, sydd ar gael i’w brynu yn y ganolfan.
International Feltmakers Association
Ffurfiwyd yr International Feltmakers Association (IFA) ym 1984 i feithrin diddordeb byd-eang mewn ffelt, i hyrwyddo gwaith aelodau ac i sefydlu fforwm er mwyn i aelodau allu cyfnewid gwybodaeth a syniadau.
Mae aelodaeth y gymdeithas yn wirioneddol ryngwladol gydag aelodau o bob cwr o Ewrop, Unol Daleithiau America ac Awstralia. Mae diddordebau aelodau’n amrywio o agweddau hanesyddol ac anthropolegol ffelt, i ffelt fel cyfrwng creadigol.
Mae’r IFA yn cyhoeddi cylchgrawn bob chwarter "Felt Matters", yn trefnu arddangosfeydd teithiol rhyngwladol ac yn cefnogi rhwydwaith o grwpiau rhanbarthol sy’n trefnu darlithoedd a gweithdai.
Ceir mwy o wybodaeth, yn cynnwys sut i ymaelodi, ar: www.feltmakers.com