Ymddangosodd Sinfonia Cymru yn 1996 ol a byth ers hynny cafodd gydnabyddiaeth fel un o brif gerddorfeydd siambr Cymru. Mae’r gerddorfa yn gweithio gyda’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymreig yng Nghaerdydd lle mae ganddi gartref newydd yn Neuadd Dora Stoutzker yno lle ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngorffennaf 2011.
Mae Sinfonia Cymru’n perfformio a datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer cerddoriaeth glasurol o’r safon oruchaf ledled Cymru, ac yn ymroddedig i berfformio mewn ardaloedd sydd â chyflenwad diwylliannol cyfyng. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu’r gerddorfa’n perfformio yn Abereteifi, Llandysul, Pontyberem, Casnewydd, Cricieth, Llanelwy a Llandrindod yn ogystal â Chaerdydd a Wrecsam.
Amlygir bri Sinfonia Cymru am wychder ei safonau gan y gwahoddiadau a gaiff gan brif wyliau ym Mhrydain gan gynnwys Gŵyl Bro Morgannwg, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Gŵyl y Faenol a Gŵyl Henley, a thrwy ymddangosiadau gydag artistiaid nodedig sy’n cynnwys Bryn Terfel, Catrin Finch, Karl Jenkins, Rebecca Evans a Llŷr Williams. Mae’r gerddorfa hefyd wedi sefydlu perthynas gref ag artistiaid ieuainc neilltuol yn cynnwys Alina Ibragimova, Jiafeng Chen a Philip Higham.