Cyngor Celfyddydau Cymru | Maes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 11/08/2012

Ychwanegwch fi at y Cyfeiriadur Celf!

Mewngofnodi / Cofrestru
Maes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 11/08/2012

Cyfieithiad Gwyneth Lewis o 'The Tempest', William Shakespeare

Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pontio a Citrus Arts

Rhan o Ŵyl Shakespeare Y Byd (Royal Shakespeare Company) a Gŵyl Llundain 2012

Ar ynys anghysbell, mae storm yn corddi a chyfle o'r diwedd i frawd ddial ar frawd.

Mae Ariel yn barod i dalu'r pwyth yn ôl gyda chorwynt a dŵr a thân.

Ar fôr tymhestlog, gweddia Antonio am ei einioes, wrth i Prospero wylio'r cyfan o'r tir.

Mae chwerthin ac ofn, hunllef a dryswch yn arwain creaduriaid truenus o orffennol Prospero ar ffair wyllt o gwmpas yr ynys wrth iddo wneud yn siŵr, trwy hud a lledrith a phŵer ei holl enaid, fod y wers wedi'i dysgu.

Yn ôl pob tebyg, Y Storm yw drama olaf Shakespeare ac mae'n waith cynnil, meistrolgar, llawn dyfais.

Gyda chyfieithiad newydd gan gyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, a gyda thafluniadau arbennig, syrcas a cherddoriaeth fyw, daw Theatr Genedlaethol Cymru â byd hudolus yr ynys ryfeddol hon yn fyw.

Perfformiadau

Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandow, Bro Morgannwg

Prynhawn Dydd Mawrth 07 Awst (Rhagddangosiad) 5:30pm

Nos Fercher 08 Awst 2012 7:30pm *

Nos Iau 09 Awst 2012 7:30pm *

Nos Gwener 10 Awst 2012 7:30pm

Dydd Sadwrn 11 Awst 2:30pm *

(* gydag uwchdeitlau Saesneg)


Ar faes Sioe Y Siroedd Unedig, Caerfyrddin:

Nos Fawrth 18 Medi 2012 7:30pm

Dydd Mercher 19 Medi 2012 1:30pm + 7:30pm (sgwrs ol sioe am 7:30pm)

Dydd Iau 20 Medi 2012 1:30pm + 7:30pm (gydag uwchdeitlau Saesneg)

Dydd Gwener 21 Medi 2012 1:30pm + 7:30pm



Stad Y Faenol, Bangor:

Nos fawrth 02 Hydref 2012 7:30pm

Dydd Mercher 03 Hydref 2012 1:30pm + 7:30pm (sgwrs ol sioe am 7:30pm)

Dydd Iau 04 Hydref 2012 1:30 + 7:30pm (gydag uwchdeitlau Saesneg)

Dydd Gwener 05 Hydref 2012 1:30pn + 7:30pm

Dydd Sadwrn 06 Hydef 2012 1:30pm

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245