Comisiynwyd yr artist, Owen Griffiths, gan gyfarwyddwr y prosiect, Mark Rees, ac mae wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned leol dros y chwe mis diwethaf i drawsnewid rhan o'r cae hanesyddol yn ardd lysiau gymunedol.
Mae 'Llysiau’r Vetch' eisoes wedi'i gydnabod yn fenter newydd wych i'r ardal, gyda 103 o welyau wedi'u codi a dau dwnnel polythen wedi'u hadeiladu, yn ogystal â chynlluniau i gadw ieir a gwenyn ar y safle.
Yn sgîl y prosiect hwn, mae trigolion, ysgolion, eglwysi a busnesau wedi dod at ei gilydd i gynnig eu doniau garddio i'r cynllun amgylcheddol unigryw hwn.
Mae trigolion a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio ar y safle drwy gydol misoedd y gaeaf i ddatblygu a chynnal y safle, gan gwrdd yn rheolaidd, coginio cawl, adeiladu closhis a chymdeithasu wrth ddatblygu eu lleiniau a thrin eu cnydau gaeaf caled.
Ymunwch â'r artist Owen Griffiths ddydd Gwener 27 Ionawr, am 1pm yn yr YMCA ar Ffordd y Brenin, taith gerdded fer yn unig o'r safle eiconig, wrth iddo drafod y prosiect a pherthnasedd y math hwn o waith celf yn yr hinsawdd ariannol a chreadigol bresennol. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o weithgareddau oddi ar y safle Oriel Gelf Glynn Vivian.
Wrth siarad am y prosiect, meddai Owen Griffiths, "Mae ailgysylltu â'r broses o dyfu bwyd a hunangynhaliaeth yn dod yn fwyfwy arwyddocaol wrth i brisiau bwyd godi'n aruthrol a thoriadau ariannol gynyddu. Mae hefyd mewn rhyw ffordd yn symudiad i gymdeithas fwy entrepreneuraidd a chreadigol.
Mae ailddefnyddio, ail-lunio ac ailystyried adnoddau, megis y Vetch, i'w ddefnyddio dros dro yn dir i gynhyrchu bwyd yn ffordd amlwg ac angenrheidiol o gyd-drafod ffordd newydd o reoli tir."
Bydd y prosiect yn para hyd at 12 mis, gyda diweddglo arbennig, Sioe Blodau a Chynnyrch Llysiau'r Vetch a dathliad coginiol cymunedol, y bwriedir ei gynnal ym mis Mehefin 2012 ger safle nythu Avion, o flaen Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Bydd Griffiths hefyd yn cydlynu rhaglen o ddigwyddiadau, sgyrsiau a phrosiectau cysylltiol ar gyfer 2012, gan gynnwys adeiladu cerflun sied a gaiff ei ddefnyddio fel lle ar gyfer adnoddau prosiect/llyfrgell, a chanolfan ar gyfer sgyrsiau a pherfformiadau, a bydd yn cynnwys stoc o lyfrau garddio a roddwyd i'r prosiect gan wirfoddolwyr ac Oxfam.
Mae gan Owen Griffiths arfer amrywiol ac amlddimensiwn sy'n estyn ar draws cyfryngau a phynciau amrywiol, wedi'i ysgogi gan ymholiad ac angen am ymateb i bryderon cymdeithasol pwysig. Mae'n gweithio'n annibynnol ac ar y cyd â'r artist Fern Thomas a chyda'r grŵp Supersaurus o Abertawe. Mae bwyd yn thema sy'n codi'n aml yn ei waith; mae' tyfu, y coginio a'r bwyta'n cael eu harchwilio.
Mae prosiect Llysiau'r Vetch yn waith celf cymdeithasol, amlddisgyblaethol a chyfranogol mewn cydweithrediad ag Adain Avion, rhan o gomisiwn 'Artistiaid ar y Blaen' Cymru, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi'i gynnwys yng Ngŵyl Llundain 2012 ac yn rhan o Olympiad Diwylliannol Llundain 2012.
Rheolir Llysiau'r Vetch gan Ganolfan Celfyddydau Taliesin mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian, Fforwm yr Amgylchedd Abertawe a Dinas a Sir Abertawe.
I gael mwy o wybodaeth gan gynnwys ffilmiau byr a dogfennaeth, ewch i wefan Llysiau'r Vetch.
www.vetchveg.tumblr.com
www.adainavion.org
DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Sims, Swyddog Marchnata Oriel Gelf Glynn Vivian trwy ffonio 01792 516900 neu e-bostio laura.sims@swansea.gov.uk