Cyngor Celfyddydau Cymru | Llwyfan i’r Gymru drefol
Nôl at y rhestr newyddion

Llwyfan i’r Gymru drefol

Bydd addasiad llwyfan Cymraeg o un o lyfrau ffuglen cyfoes gorau Cymru yn mynd ar daith o amgylch Cymru'r Gwanwyn yma (28 Chwefror - 28 Mawrth). 13 Ion 2012

Llwyfan i’r Gymru drefol

Mae Fala Surion yn gynhyrchiad theatr o nofel arobryn Fresh Apples gan Rachel Trezise, a enillodd wobr fawreddog EDS Dylan Thomas yn 2006.

Mae’r sioe, sy’n cael ei chynhyrchu gan Cwmni’r Frân Wen, Ynys Môn, yn gasgliad o straeon byrion emosiynol, pwerus, a miniog wedi’i seilio ar fywyd arddegau yn y Gymru gyfoes.

Mae rhai o actorion gorau Cymru ymhlith y cast, gan gynnwys Rhodri Meilir, fu’n actio yn rhaglen gomedi boblogaidd y BBC My Family, Catrin Mara sy’n actio yn Pobol y Cwm a Rhodri Miles a enillodd y wobr Artist Rhyngwladol Gorau yn yr Hollywood Fringe Festival yn 2010 am ei bortread o’r eicon Cymraeg Richard Burton.

Seren arall ymhlith y cast yw Lowri Gwynne o Rownd a Rownd, S4C a’r actores llwyfan Lynwen Haf Roberts, sydd newydd orffen cyfnod yn chwarae’r brif ran yng nghyfieithiad Cymraeg y Theatr Genedlaethol o sioe gerdd ddadleuol a phoblogaidd Frank Wedekind, Spring Awakening.

"Fe gafodd emosiwn amrwd a phŵer uniongyrchol y nofel effaith ddwys arna i," dywed Meilir, sy’n 33 mlwydd oed a fu hefyd yn actio yn Terry Pratchett’s Hogfather ar Sky One.

"Mae’n archwiliad ysgytwol o ddiniweidrwydd glasoed gyda gwythïen o gomedi tywyll yn rheged drwyddi. Mae ‘na adegau yn y llyfr sy’n gwneud i chi chwerthin, sy’n cynyddu tynerwch y straeon. Mae’n fath o hiwmor fydd y Cymry yn ei werthfawrogi ac yn gallu cydymdeimlo ag o," ychwanegodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Maes Garmon.

Gellir disgrifio talent ragaeddfed Trezise a’i harddull o ryddiaith fel un ffraeth ac ysgytiol, gyda throadau ymadrodd adleisiol sy’n neidio allan i’ch dal gerfyn eich gwddf. Mae wedi cael ei alw’n ‘ffuglen Cymraeg trefol’ sy’n adlewyrchu anialdir emosiynol a materol y Gymru drefol.

"Lle bynnag mae yna boen gwirioneddol; tlodi, gormes gwleidyddol, anghyfiawnder, mae yna jôcs da a hiwmor tywyll a byw iawn yn bodoli," dywed yr awdur 33 mlwydd oed o Gwm Rhondda.

"Yn aml iawn tydw i ddim yn sylwi fod yr hyn dwi’n ‘sgwennu yn ddoniol. Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gweithio ar nofel sydd wedi ei lleoli yn America gyda chymeriadau Uniongred Iddewig a rhai cymeriadau o Dde America, ac mae eu hagwedd nhw tuag at hiwmor yn debyg iawn i un fy nghymeriadau Cymraeg."

Ar hyn o bryd mae hi’n ysgrifennu sgript ffilm gyda chyfarwyddwr Human Traffic, Justin Kerrigan: "Mae gweld actorion yn dod â chymeriadau yn fyw, cymeriadau oedd, unwaith, yn ddim mwy na breuddwyd yn fy mhen, yn brofiad rhyfeddol a boddhaol iawn."

Mae llyfrau Trezise wedi cael eu cyfieithu i nifer o wahanol ieithoedd ond dyma’r tro cyntaf i un gael ei gyfieithu i’r Gymraeg: "Doedd gen i ddim syniad y bydda nhw’n cael eu cyfieithu i wahanol ieithoedd mewn gwahanol wledydd tan i mi fod yn awdur preswyl ym Mrhifysgol Texas yn 2007, fe ddywedodd myfyriwr o dref fach y tu allan i Austin ei fod wedi darllen y storïau a bod y diflastod a’r dadrithio oedd ynddyn nhw yn taro tant ag o. Mae’n eitha’ eironig fod stori benodol am bwnc neu le arbennig yn gallu ymddangos yn gyffredinol a holl gynhwysfawr i gynulleidfa."

Dywedodd y Cyfarwyddwr Iola Ynyr ei bod hi wrth ei bodd yn gweithio hefo sgriptwyr Fala’ Surion, Manon Eams a Catrin Dafydd, fu’n cyfieithu’r gwaith o Saesneg i Gymraeg. Mae hi’n teimlo eu bod nhw ymhlith y goreuon yng Nghymru, ac "wedi bod yn ddewr iawn wrth drosglwyddo’r cymeriadau o’r tudalennau i’r llwyfan.

"Maen nhw wedi defnyddio hiwmor tywyll, tlodi a gorthrwm i bortreadu bywyd trefol Cymru yn ei holl ogoniant," ychwanegodd cyfarwyddwr artistig Cwmni’r Frân Wen.

Fala’ Surion

28 Chwefror 2012 Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth *
29 Chwefror 2012 Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
2 Mawrth 2012 Canolfan Taliesin, Abertawe
7 Mawrth 2012 Theatr Glan yr Afon, Casnewydd
9 Mawrth 2012 Galeri, Caernarfon *
10 Mawrth 2012 Galeri, Caernarfon
13 & 14 Mawrth 2012 Theatr John Ambrose, Ruthin
15 & 16 Mawrth 2012 Chapter, Caerdydd *
21 & 22 Mawrth 2012 Neuadd Dwyfor, Pwllheli
24 Mawrth 2012 Pontio, Bangor
26 Mawrth 2012 Theatr Colwyn, Bae Colwyn
28 Mawrth 2012 Theatr Lyric, Caerfyrddin

Am ragor o wybodaeth a thocynnau www.falasurion.com neu 01248 715 048.

* Trafodaeth ar ôl y perfformiad gyda Rachel Trezise a’r tîm artistig.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245