Cyngor Celfyddydau Cymru | Ffilmyouth: defnyddio ffilm gyda phobl ifanc
Nôl at y rhestr ddigwyddiadau

Ffilmyouth: defnyddio ffilm gyda phobl ifanc

Mae’r gynhadledd hyfforddiant undydd hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid, ymarferyddion celf, addysgwyr ac unrhywun arall sydd eisiau defnyddio ffilm, gwneud-ffilmiau ac animeiddio gyda phlant a phobl ifanc. 29 Chwef 2012

29 Chwefror

Chapter, Caerdydd

Mae’r gynhadledd hyfforddiant undydd hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid, ymarferyddion celf, addysgwyr ac unrhywun arall sydd eisiau defnyddio ffilm, gwneud-ffilmiau ac animeiddio gyda phlant a phobl ifanc.

Bydd ymarferyddion profiadol o Gymru a’r DU yn darparu dewis o sesiynau. Rydym yn bwriadu cynnwys sesiynau ar animeiddio, gwneud-ffilmiau syml, golygu fideo, gwneud ffilmiau gyda deunydd sydd ar gael am ddim, creu storifyrddau, gwneud-ffilmiau ar gyfer pobl anabl, gweithio gyda phobl nad ydynt mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant, defnyddio ffilm yn y system cyfiawnder ieuenctid, ac ystod o ddewisiadau eraill.

Digwyddiad Addysg Cyfryngau Cymru yw Ffilmyouth, a gyllidir gan Asiantaeth Ffilm Cymru.

I gael mwy o wybodaeth ac i nodi lle ymwelwch â www.mediaedwales.org.uk/ffilmyouth, os gwelwch yn dda.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245