Cyngor Celfyddydau Cymru | Arddangosfa Newydd Oriel Ysbyty Gwynedd
Nôl at y rhestr ddigwyddiadau

Arddangosfa Newydd Oriel Ysbyty Gwynedd

Arddangosfa Gelf newydd yn Oriel Ysbyty Gwynedd Bangor gan yr artist Alison Mercer ar ffotograffydd Jan Davies. 10 Ion - 31 Maw 2012

Dyddiad : 10 Ionawr hyd 31 Mawrth
Lleoliad : Ysbyty Gwynedd
Tref: Bangor

Lleolir yr Oriel ym Mhrif Fynedfa’r Ysbyty ac mae ar gael i holl ymwelwyr a staff yr Ysbyty i’w fwynhau. Mae’r fenter hon yn rhan o raglen celfyddyd mewn iechyd a lles ehangach sy’n cynnwys cynlluniau arloesol sy’n defnyddio’r celfyddydau i gyfrannu tuag at ofal iechyd, i hyrwyddo lles ac i wella cysylltiadau cymunedol a chyfathrebu.

Cynhelir yr arddangosfa tan ddiwedd mis Mawrth 2012. Cynllun cydweithredol rhwng Rhaglen Celfyddyd mewn iechyd a Lles Bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd yw Oriel ysbyty Gwynedd. Am fanylion pellach mae croeso i chi gysylltu â Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd ar 01286 679721 neu drwy gyfrwng yr e-bost GwawrR@gwynedd.gov.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245