Søndergård ydi Darpar Brif Arweinydd cerddorfa genedlaethol Cymru hyd nes iddo gychwyn ei gyfnod pedair blynedd yn nhymor cyngherddau 2012/13. Mae’r Daniad yn cymryd yr awenau gan Thierry Fischer o’r Swistir sy’n arwain ei dymor olaf yn Brif Arweinydd o fis Medi allan.
Mae Thomas Søndergård yn un o blith goreuon arweinwyr Llychlyn a ddaeth i’r fei mewn blynyddoedd diweddar. Ar hyn o bryd mae’n Brif Arweinydd ac yn Ymgynghorydd Cerddoriaeth Cerddorfa Radio Norwy.
"Anghofiwch lonyddwch y Llychlynwyr, mae Søndergård yn danbaid"
Gwnaeth Søndergård ei début gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn nhymor 2009/10, roedd y beirniaid yn fawr eu clod a daeth adolygiadau rhagorol i’w ran yn sgîl ei gyngherddau gyda’r Gerddorfa.
"Anghofiwch lonyddwch y Llychlynwyr, mae Søndergård yn danbaid...Roedd ei gyrchddull dynamig wrth fodd chwaraewyr Cerddorfa’r BBC yng Nghymru, a oedd yn barod i ymateb yn danbaid yn eu tro" meddai Rian Evans yn The Guardian, 4 Rhagfyr 2009.
Caiff cynulleidfaoedd siawns am gip ymlaen llaw ar y Darpar Brif Arweinydd ar y cyd â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Hoddinott y BBC pan fyddant yn perfformio cyngerdd nos Fawrth Gorffennaf 12. Bydd Søndergård hefyd yn cychwyn tymor 2011/12 yng Nghaerdydd gyda’r Gerddorfa ym mis Medi yn Neuadd Dewi Sant. Yn gwmni i’r maestro ifanc bydd un o soddgrythorion blaenllaw’r byd, Steven Isserlis, mewn rhaglen o Ravel, Saint-Saëns, Messiaen a Debussy.
Daeth clod mawr i ran Søndergård gan feirniaid cenedlaethol a rhyngwladol a dyma rai o’u geiriau am ei berfformiadau a’i recordiadau: "â deall treiddgar ac angerdd dwys", "yn gyfewin fanwl", "mae ganddo allu prin", "yn ddigon o ryfeddod" ac "â medr o’r mwyaf".
Meddai David Murray, Cyfarwyddwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, "Mae’n bleser mawr croesawu Thomas Søndergård ar ran y Gerddorfa fel ein Darpar Brif Arweinydd. Bydd Thomas yn dod i’w swydd ym mis Medi 2012 ac rydym eisoes wedi eistedd i lawr gyda’n gilydd i gynllunio cyfres o gyngherddau cyffrous at dymor cyntaf Thomas. Ac yntau'n Ddaniad, mae gan gerddoriaeth o’r gwledydd Nordig arwyddocâd arbennig i Thomas, ond mae ei repertoire yn eang iawn a rhydd hyn le i ni arlwyo gwledd o gerddoriaeth i’n cynulleidfaoedd. Yn yr amser byr y buom yn gweithio gyda’n gilydd mae Thomas wedi ennill bryd y Gerddorfa â’i ddawn gerddorol naturiol, ei egni dynamig a’i ymroddiad o eigion calon. Dyma bartneriaeth sy’n addo llawer am a ddaw ac edrychaf ymlaen at gerddora tan gamp o’n blaenau!"
Meddai Keith Jones, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, "Mae BBC Cymru Wales yn falch iawn bod arweinydd cystal â Thomas Søndergård yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC sy’n adnabyddus trwy’r gwledydd. Mae cyfuno rhagoriaeth unig gerddorfa symffoni broffesiynol Cymru â disgleirdeb Thomas Søndergård yn nod cydweithrediad creadigol newydd cyffrous i gynulleidfaoedd gael blas arno."
Mae Thomas Søndergård yntau yn edrych ymlaen at ymuno â Cherddorfa genedlaethol Cymru ac meddai, "Yn ystod unrhyw dymor byddaf yn cyfarfod â cherddorfeydd newydd yn bur aml a phob amser yn meddwl tybed sut y bydd fy ymagwedd at y gerddoriaeth yn cyd-fynd â’u greddfau a’u dull. Roedd fy début gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym mis Rhagfyr 2009 yn ennyd syfrdanol i mi ac mae gennyf gof byw o ymroddiad a brwdfrydedd pur y chwaraewyr o’r nodyn cyntaf un ymlaen. Cyfarfod y fath gerddorion, yn awchus am ddod ataf i gael hyd i lwybr ar y cyd i galon y gerddoriaeth, sydd yn f’atgoffa pam rwy’n dotio at gerddora. O’r cychwyn cyntaf roeddwn yn teimlo perthynas glòs â’r ensemble selog yma ac mae’n anrhydedd aruthrol i mi gael fy ngwahodd i fod yr arweinydd cerddorol nesaf arno. Felly gyda phleser o’r mwyaf edrychaf ymlaen at ddod i’m swydd yn Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC y flwyddyn nesaf.
Mae tocynnau i’r cyngerdd yn Neuadd Hoddinott y BBC ar 12 Gorffennaf a’r perfformiad ar 16 Medi yn Neuadd Dewi Sant ar gael gan Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar 0800 052 1812.
bbc.co.uk/now
Am ragor o wybodaeth i’r wasg/cyfweliadau/lluniau/tocynnau adolygu cysylltwch â:
Penny James, Swyddog Cyhoeddusrwydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Tel : 029 2076 6599.
E-bost: penny.james@btopenworld.com
David Hopkins (y Swyddog Cyfathrebu, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC)
02920 559 715
E-bost: david.hopkins@bbc.co.uk