Cyngor Celfyddydau Cymru | Aelodau newydd Cyngor y Celfyddydau yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru
Nôl at y rhestr newyddion

Aelodau newydd Cyngor y Celfyddydau yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru

Mae saith o aelodau newydd wedi'u penodi i Gyngor Celfyddydau Cymru gan yr Arglwydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. 01 Ebr 2019

Cyngor Celfyddydau Cymru yw llais y celfyddydau yng Nghymru, ac mae'n defnyddio cyllid cyhoeddus i greu cyfleoedd i bobl fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau.

Wedi'i ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru - ond hefyd yn gorff dosbarthu y Loteri Cenedlaethol ac yn elusen gofrestredig - mae Cyngor y Celfyddydau yn ceisio annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, ac i greu profiadau diwylliannol o safon uchel i bawb, waeth ble y maent yn byw na beth yw eu cefndir.

Mae Aelodau'r Cyngor yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi sector gelfyddydau ddeinamig a chreadigol. Gyda'i gilydd, maent yn gyfrifol am sicrhau bod arian Llywodraeth Cymru a'r Loteri yn cael ei fuddsoddi yn iawn.

Mae aelodau'r cyngor hefyd yn gyfrifol am:

· bennu cyfeiriad strategol Cyngor y Celfyddydau

· datblygu, gweithredu a monitro'r polisi celfyddydau

· cytuno ar Gynlluniau Corfforaethol a Gweithredol

· pennu y gyllideb flynyddol

· dyrannu grantiau yn flynyddol i sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan arian refeniw

· sicrhau bod Cyngor y Celfyddydau yn rheoli ei faterion yn effeithiol ac yn atebol amdanynt

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Dwi'n falch iawn o weld ystod mor amrywiol o benodiadau, pob un ohonynt â phrofiad helaeth o'r sector celfyddydol. Mae sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant ar baneli a chynghorau nid yn unig y peth iawn i'w wneud ond mae hefyd yn bwysig i'r agenda fusnes. Mae sefydliadau ar eu gorau pan fydd amrywiaeth o ran diwylliant, syniadau a safbwyntiau."

"Gyda gwybodaeth ymarferol o'r heriau presennol sy'n wynebu sefydliadau celfyddydol, Cyngor y Celfyddydau a'r bobl sy'n gweithio gyda'r celfyddydau, dwi'n hyderus bod gan yr unigolion hyn y gallu i feddwl yn greadigol ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â'r materion hyn."

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Fel corff cyhoeddus, mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru awydd a chyfrifoldeb i sicrhau bod profiadau celfyddydol ar gael ar draws amrywiol gymunedau Cymru. Mae aelodau newydd y Cyngor wedi'u dewis gan eu bod yn dod â gweledigaeth, profiad a sgiliau pwerus i wireddu'r uchelgais honno. Mae ganddynt syniad da o'r hyn fyddai'n sicrhau bod y celfyddydau ar gael mewn gwirionedd i bobl ledled y wlad.

______________

Bywgraffiadau

Alison Mears Esswood

Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes addysg gerddorol yn sector yr ysgol a'r conservatoire. Ar hyn o bryd hi yw Cyfarwyddwr Diogelu ac Artistiaid Ifanc Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall. Hi sy’n gyfrifol am yr holl hyfforddiant arbenigol i’r rhai dan 18 oed ym meysydd Cerddoriaeth, Drama a'r Celfyddydau Cynhyrchu sy’n cynnwys:

· y Guildhall Iau

· Canolfan Cerddorion Ifanc Llundain

· pedair canolfan ranbarthol

· Cerddorfa Symffoni Ysgolion Llundain

Cyn hynny roedd ganddi swyddi rheoli eraill yn y Guildhall gan gynnwys pennaeth y Guildhall Iau. Yn 2017 cafodd ei gwneud yn Gymrawd i’r Guildhall.

Roedd yn gyd-gyfarwyddwr artistig yn Ŵyl Machen Isaf gan gynnwys adeg dathlu ei hanner can mlynedd yn 2017. Bu'n dysgu yn Adran Iau Coleg Cerdd a Drama Cymru a gweithio’n llawrydd i sawl sefydliad celfyddydol yng Nghaerdydd. Am ddeng mlynedd roedd yn aelod hefyd o Gorws Cenedlaethol BBC Cymru.

Devinda De Silva

Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes newid cymdeithasol. Mae wedi gweithio mewn partneriaeth gyda chymunedau ledled Cymru a thramor gan ganolbwyntio ar y celfyddydau a'u gallu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac annog cyfranogiad ehangach a mwy ystyrlon.

Ef yw un o sylfaenwyr National Theatre Wales. Ac yntau’n Bennaeth Cydweithio, mae wedi arwain ar greu a datblygu’r rhaglen TEAM – dull arloesol y theatr o ymgysylltu.

Ar hyn o bryd mae ganddo swyddi ymgynghorol gyda Sefydliad Baring a Choleg Caerdydd a’r Fro.

Gwennan Mair Jones

Hi yw Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd ers dwy flynedd. Yno mae’n arwain tîm o saith a nifer o bobl lawrydd o’r Gogledd a’r tu hwnt. Roedd ei hangerdd dros y celfyddydau ac ymgysylltu cymunedol wedi dod o’i magwraeth wledig yn Llan Ffestiniog ar fferm ei rhieni. Yn ddeunaw oed aeth i astudio Drama Gymunedol yn Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl. Wedyn daeth yn ôl i’r Gogledd i weithio gyda’r Frân Wen ar Ynys Môn. Yno llwyddodd i ddod â theatr at y gymuned drwy’r Gymraeg. Mae ei hangerdd yn parhau gyda Theatr Clwyd gan gynyddu’r gwaith sy’n digwydd drwy’r Gymraeg gyda gweithdai gyda’r gwahanol genedlaethau, ymgysylltu â’r gymuned a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o hwyluswyr Cymraeg. Wrth wraidd ei gwaith y mae cymuned a hygyrchedd a sut mae’r celfyddydau yn gallu newid cymunedau.

Lhosa Daly

Hi yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y De. Cyn hynny hi oedd Cyfarwyddwr Gweithredol Ynys Spike, hwb creadigol Bryste.

Yno roedd ganddi gyfrifoldeb cyffredinol dros weithrediadau, masnachu, ymwelwyr, cyllid a chodi arian.

Cyn hynny, roedd yn Bennaeth Datblygu yn Oriel Gyfoes Turner, Margate. Hi yw:

· Cadeirydd Sefydliad Cyfarwyddwyr Bryste

· Is-gadeirydd, Creadigol a Digidol i Bartneriaeth Menter Leol Gorllewin Lloegr

· Ymddiriedolwr Canolfan y Gyfraith dros Avon a Bryste

· Cynrychiolydd y De-orllewin i Engage, y Gymdeithas Genedlaethol am Addysg Oriel

Mae’n gyfreithiwr cymwys ym Mhrydain ac Efrog newydd. Roedd wedi astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion cyn gweithio i rai o'r sefydliadau proffesiynol mwyaf y byd, gan gynnwys:

· Cyfreithwyr Andersen, Manceinion

· Herbert Smith, Llundain

· Ernst a Young, Efrog Newydd

Ers dychwelyd i Brydain mae’n gweithio i KPMG ac Ernst a Young ym Mryste.

Sarah Younan

Cafodd ei geni yn yr Almaen a’i chodi yng Nghenia. Bu’n gweithio ym meysydd adfer gwaith celf, theatr a chynllunio llwyfan yn yr Almaen, Ffrainc a'r Iseldiroedd. Symudodd i Gymru yn 2009 i astudio serameg. Gydag ysgoloriaeth AHRC cafodd PhD o Ysgol Gelf Caerdydd yn 2015. Roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio casgliadau treftadaethol wedi'u digideiddio mewn amgueddfeydd yn adnoddau o ddiwylliant agored, creadigol ac addysgol.

Mae wedi arddangos gwaith ym Mhrydain a thramor ac wedi gweithio yn y sector amgueddfaol yn Ffrainc a Thwrci. Mae’n angerddol am greu cyfleoedd drwy ddiwylliant. Ar hyn o bryd hi yw Cydlynydd Ymgysylltu Ieuenctid.

Tudur Hallam

Mae wedi’i benodi i Gadair y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Yno mae ganddo brofiad o ddarlithio ac ymchwilio ers 20 mlynedd. Mae'n awdur academaidd a bardd. Yn 2010 roedd wedi ennill cadair yr Eisteddfod ac eleni bydd yn cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae ymdriniaethau:

· am lenyddiaeth a theatr Cymru

· am berthynas y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru

· am Saunders Lewis a Dylan Thomas, comisiwn i’r Academi Brydeinig

Yn ddiweddar aeth yn Athro Ymchwil sy’n ymweld â Phrifysgol Houston. Yno mae’n datblygu gwaith cymharol ym maes diwylliannau deuol, diolch i gymrodoriaeth gan Gomisiwn Fullbright. Mae’n dod o Sir Gâr lle mae’n byw gyda’i deulu. Mae hefyd yn llywodraethwr mewn ysgol leol ac yn hyfforddwr pêl-droed i bobl ifanc yng Nghwm Gwendraeth.

Victoria Provis

Mae’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol. Roedd wedi astudio yng Ngholeg yr Iwerydd cyn symud dramor i ennill BA (Anrhydedd) mewn Economeg ym Mhrifysgol Colymbia Brydeinig ac MBA yn Sefydliad Gweinyddu Busnes Ewrop yn Ffrainc. Cafodd yrfa yn y meysydd hyn:

· cyfathrebu corfforaethol (Burson-Marsteller)

· ymgynghori strategol (McKinsey a’i gwmni)

· recriwtio (Odgers Berndtson, Llundain a Chaerdydd)

Yn ddiweddar mae wedi treulio cyfnodau yn y swyddi anweithredol hyn:

· Aelod o Glas Cymru

· Aelod o Fwrdd Ymgynghorol Twristiaeth Cymru

· Ymddiriedolwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru (2010-Mawrth 2019)

Yn yr Amgueddfa roedd yn cadeirio ei Bwrdd Datblygu pan oedd Sain Ffagan yn cael ei hailddatblygu. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Gyngor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245