Cyngor Celfyddydau Cymru | Agriculture Cymru 13/09/2012

Yr Awyr Agored Mawr 2012 Cynhadledd Genedlaethol cyntaf Cymru - Perfformiadau Awyr

Dechrau chwiliad newydd

Ychwanegwch fi at y Cyfeiriadur Celf!

Mewngofnodi / Cofrestru
Lle mae'r digwyddiad yn digwydd?
Agriculture Cymru
Y Plas
Machynlleth
SY20 8ER
Pa bryd mae'r digwyddiad?
Dydd Iau Medi 13
Manylion cyswllt
Articulture Wales
07890 681 212
info@articulture-wales.co.uk
http://www.articulture-wales.co.uk/events/event/the-great-outdoors-conference-2012/
Agriculture Cymru 13/09/2012

Digwyddiad rhwydweithio unigryw yw’r Awyr Agored Mawr dan ofal Articulture Cymru gyda chefnogaeth a mewnbwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Y Rhwydwaith Celfyddydau Stryd Annibynnol, Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Walk The Plank’, ‘Citrus Arts’, ‘Emergency Exit Arts’, a Syrcas NoFitState, Theatr Byd Bychan a Chelfyddydau Cymunedol Rhyngddiwylliannol De Cymru (SWICA).

Ei nod yw dod ag ymarferwyr ym maes celfyddydau awyr agored, cyllidwyr, gwyliau a lleoliadau at ei gilydd er mwyn rhannu syniadau, cael mynediad at gyllid ac i feithrin cyfleoedd i gydweithio ar weithiau celf newydd yma yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys theatr stryd, carnifalau, gorymdeithiau, gwaith pypedau, syrcas a gosodiadau celf.

Mae dwy ran i’r Awyr Agored Mawr: y prif ffocws yw Cynhadledd undydd gyda siaradwyr ysbrydoledig a chyfle i rannu adnoddau, syniadau ac arferion gorau. Dilynir hyn gan Antur Awyr Agored – digwyddiad ychwanegol dewisol y bore wedyn pan fyddwn yn ystyried tri safle potential newydd ar gyfer perfformiadau, i’w ddefnyddio ar gyfer digwyddiad arfaethedig ym mis Mai 2013!

Yr Awyr Agored Mawr 2012

Cynhadledd: Dydd Gwener 12fed Hydref, 9.30am – 5pm, Y Plas, Machynlleth, Powys

Antur Awyr Agored: Dydd Sadwrn 13eg Hydref, 9.30am - 2pm, Safleoedd amrywiol ym Mro Ddyfi, Powys

Cynyddu cyfleoedd i greu a chefnogi arloesi, cydweithio a chynhyrchu golygfeydd awyr agored yng Nghymru.

Mae bas data helaeth o ymarferwyr celfyddydau awyr agored Cymreig, ac mae llawer ohonynt yn gweithio yn y DU ac ar lefel genedlaethol. Hefyd mae cyllid celfyddydau penodol ar gael yn y maes.

Mae’n amlwg fod yr holl gynhwysion gennym i gyflwyno celfyddydau awyr agored yng Nghymru, mae sialensiau daearyddol ein tirwedd wledig yn golygu y gellir cyfyngu cyfleoedd datblygu digwyddiadau celf ar y cyd oherwydd diffyg strwythur cefnogi a logisteg gymhleth.

Platfform yw’r Awyr Agored Mawr a grëwyd gan Articulture ac ymarferwyr eraill ym maes celf cefnogol i fynd i’r afael â hyn.

Ei nod yw archwilio ffyrdd adeiladol ac arloesol i gynyddu a chodi safon y ddarpariaeth a dyheadau celf awyr agored yng Nghymru, gan dynnu ysbrydoliaeth o’i hiaith, ei threftadaeth, ei diwylliant a’i thirwedd.

Rhaglen

Ymysg y siaradwyr sydd wedi cytuno’n barod i annerch Cynhadledd yr Awyr Agored Mawr mae: John McGrath, Cyfarwyddwr, Theatr Genedlaethol Cymru; Orit Azaz, Cyfarwyddwr Creadigol Annibynnol gan gynnwys Syrcas NofitState; Debbie Mullins, Cyfarwyddwr, Emergency Exit Arts; Elen Ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig, Canolfan Celf ac Arloesi, Pontio; Hugh Edwin Jones, Swyddog Digwyddiadau, Cyngor Gwynedd; Bridie Doyle, Citrus Arts, Casnewydd a chynrychiolwyr o Gyngor Celfyddydau Cymru.

Arweinwyr yr Antur Awyr Agored ar y dydd Sadwrn fydd Cyfarwyddwyr Articulture Annie Grundy a Julie Ann Heskin.

Archebu lle
Digwyddiad dielw yw’r Awyr Agored Mawr 2012, a gofynnir i’r rhai sy’n dod i’r digwyddiadau dalu ffi tuag at y costau. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi cymhorthdal tuag at y digwyddiad. Bydd y gost fel a ganlyn:
Cynhadledd: Mudiadau: £80, Ymarferwyr unigol: £40, Myfyrwyr: £25

Mae’r pris yn cynnwys coffi yn y bore a phryd amser cinio. (Mae opsiwn hefyd i gael pizza gyda’r hwyr a noson yn y dafarn)

Antur Awyr Agored: Mudiadau: £20, Ymarferwyr unigol: £15, Myfyrwyr: £10

Mae’r pris yn cynnwys cludiant a phecyn picnic.

Gellir archebu tocynnau yma: http://www.tickettailor.com/alltickets/944/caa9/

Cyrraedd
Lleolir yr Awyr Agored Mawr yn Y Plas, Machynlleth, Powys, SY20 8ER.

I rannu car: Ewch at www.freewheelers.co.uk/The_Great_Outdoors_2012

Ar y trên: Mae’n cymryd 5 munud i gerdded o orsaf Machynlleth i’r Plas. Mae’r dref ar reilffordd Birmingham-i-Aberystwyth dan ofal cwmni trenau Arriva Wales.

Ar y bws: Ewch at www.traveline-cymru.info am wybodaeth ar fysiau ar draws Cymru.

Llety fforddiadwy
Byddem yn argymell: www.wynnstay-hotel.com (£45 - £85 am ’stafell), Gwesty’r Llew Gwyn (£45-£70) 01654 703455, www.reditreks.com (£12.50 – £17 tŷ bynciau, £5 i wersylla), Dyfi Chalets (£150 y penwythnos i 4 o bobl www.dyfichalets.co.uk),
Bythynnod Smuggler’s Cove i grwpiau www.smugglerscove.info, neu ewch ar www.stayinwales.co.uk

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245