Cyngor Celfyddydau Cymru | Artes Mundi 5: galwad am enwebiadau ar gyfer artistiaid
Nôl at y rhestr newyddion

Artes Mundi 5: galwad am enwebiadau ar gyfer artistiaid

Ar 19 Ebrill mae Artes Mundi, gwobr gelf fwyaf y DU, yn lansio ei galwad ar draws y byd am enwebiadau ar gyfer artistiaid. 19 Ebr 2011

Artes Mundi 5: galwad am enwebiadau ar gyfer artistiaid

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 26 Mehefin eleni. Adolygir yr enwebiadau gan ddau guradur rhyngwladol sefydledig a fydd yn dethol rhestr fer o chwe artist ar gyfer yr arddangosfa eilflwydd yn 2012. Bydd un artist yn derbyn y wobr £40,000 a bydd yr holl artistiaid eraill sydd ar y rhestr fer yn derbyn gwobr newydd sy’n werth £4,000 yr un.

Yr alwad am enwebiadau yw man cychwyn proses ymchwil ryngwladol sy’n galluogi Artes Mundi i gydnabod a chynorthwyo artistiaid gweledol cyfoes y mae eu gwaith yn ymgysylltu â realaeth gymdeithasol, profiad y mae pobl wedi byw drwyddo a’r cyflwr dynol. Mae’n rhoi llwyfan i artistiaid sydd wedi ennill eu plwyf yn eu gwledydd neu eu rhanbarthau eu hunain ac sy’n dechrau dod i’r golwg yn rhyngwladol ond sydd heb eu cydnabod yn ddigonol yn y DU. Bydd enwau’r ddau ddetholydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod enwebu a datgelir rhestr fer yr artistiaid ym mis Medi eleni.


Dyddiadau’r Arddangosfa a’r Wobr yn Symud i’r Hydref

Bydd Artes Mundi’n agor ym mis Medi 2012 a bydd yn rhedeg am dri mis, gan symud o ddyddiadau’r gwanwyn arddangosfeydd Artes Mundi blaenorol. Yn ôl, Ben Borthwick, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig newydd Artes Mundi:

"Trwy symud Artes Mundi 5 i'r hydref, bydd yn ymuno â grwp o'r prif ddigwyddiadau yng nghalendr y celfyddydau gweledol rhyngwladol sydd hefyd yn cael eu cynnal yn y DU yn ystod y tymor hwnnw, gan gynnwys Gwobr Turner, Ffair Gelf Frieze a Biennale Lerpwl. Hwn yw'r cyd-destun priodol lle bydd Artes Mundi yn ddathlu ei benblwydd yn ddeg oed."

Panel beirniaid rhyngwladol sy’n dyfarnu Gwobr Artes Mundi hanner y ffordd trwy’r arddangosfa ym mis Tachwedd 2012.


Partneriaeth newydd rhwng Artes Mundi a Mostyn

Datgelodd Ben Borthwick, a ymunodd ag Artes Mundi o Tate Modern yn ystod yr hydref y llynedd, fod y sefydliad wedi ffurfio partneriaeth hirdymor newydd â Mostyn yn Llandudno. Yn y dyfodol, yn y flwyddyn sy’n dilyn cylchred gwobr ac arddangosfa Artes Mundi, bydd un o’r artistiaid ar y rhestr fer yn derbyn gwahoddiad i gyflwyno arddangosfa undyn neu un-ddynes yn orielau Mostyn sydd wedi cael eu hailwampio’n ddiweddar. Meddai:

"Mae’r bartneriaeth hon â Mostyn yn ein galluogi i ehangu mynediad cynulleidfaoedd yng ngogledd Cymru i Artes Mundi. Mae hefyd yn ychwanegu at ein cefnogaeth barhaus i artistiaid: mae’r Wobr yn cydnabod cyflawniad eithriadol ar gyfer corff gwaith sydd eisoes yn bodoli, tra bydd y cyfle newydd hwn i ddatblygu arddangosfa unigol yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu gwaith artistiaid."

Yn ôl Martin Barlow, Cyfarwyddwr Mostyn:

"Datblygiad pwysig i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru yw cydweithrediad Artes Mundi ag orielau. Mae Mostyn yn edrych ymlaen at greu prosiect cyffrous ar y cyd ag Artes Mundi ar gyfer 2013 a fydd yn cychwyn cydweithrediad hirdymor, pwysig ac esblygol."


Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gosodir Artes Mundi 5 mewn tua 800 metr sgwâr o orielau celf gyfoes newydd yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol o fewn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan atgyfnerthu partneriaeth hirsefydlog Artes Mundi â’r Amgueddfa. Yn ôl Ben Borthwick:

"Mae’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol wedi creu gofodau hynod brydferth sy’n cyfuno’n dringar esthetig ciwb gwyn â hanes pensaernïol amrywiol yr adeilad. Datganiad clir yw hwn ynglŷn â rôl celf gyfoes yng ngweledigaeth yr Amgueddfa ac mae Artes Mundi’n falch bod ymateb cadarnhaol y gynulleidfa i’w bedair arddangosfa gyntaf wedi cyfrannu cymaint i ddatblygu’r weledigaeth honno dros y degawd diwethaf."

Ceir manylion am broses enwebu Artes Mundi 5 ar www.artesmundi.org neu drwy ffonio +44 (0)29 2055 5300


Nodiadau i’r Golygydd

Sefydliad celfyddydau rhyngwladol yw Artes Mundi sydd â’i gartref yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Artes Mundi’n ymrwymedig i gefnogi artistiaid gweledol cyfoes ac arloesol o bedwar ban byd y mae eu gwaith yn ymgysylltu â realaeth gymdeithasol, profiad y mae pobl wedi byw drwyddo a’r cyflwr dynol.

Bob dwy flynedd, gan gydweithio ag artistiaid, orielau, sefydliadau celf, curaduron a’r Cyngor Prydeinig, mae Artes Mundi’n chwilio am enwebiadau ar gyfer artistiaid sy’n adnabyddus yn eu gwledydd neu’u rhanbarthau eu hunain ond sy’n dal i ennill cydnabyddiaeth ehangach yn rhyngwladol. Bydd dau ddetholydd annibynnol yn adolygu’r enwebiadau ac yn dewis chwe artist i’r Arddangosfa a’r Wobr eilflwydd.

Bydd yr Arddangosfa 12 wythnos yn cynnwys corff gwaith gan bob un o’r artistiaid ar y rhestr fer ac fe’i cynhelir yn Amgueddfa Gelf Cymru yng Nghaerdydd. Bydd panel ar wahân o bum beirniad yn dyfarnu Gwobr Artes Mundi, sef un o wobrau ariannol mwyaf y byd ym maes y celfyddydau gweledol. O 2012, bydd Artes Mundi’n dyfarnu £40,000 i’r enillydd a £4,000 i bob un o’r artistiaid eraill ar y rhestr fer. Bydd partneriaeth newydd â Mostyn hefyd yn gweld un o’r artistiaid ar y rhestr fer yn cyflwyno sioe unigol yn ystod y flwyddyn ar ôl yr arddangosfa.

Mae’r pedair Arddangosfa Artes Mundi gyntaf wedi bod yn llwyddiant poblogaidd â gwahanol gynulleidfaoedd, yn enwedig â phobl ifainc. Cynigir digwyddiadau curadurol a chyhoeddus a rhaglenni addysg yng Nghymru yn ystod pob cyfnod eilflwydd ac mae elfennau teithio a chomisiynu pellach yn cael eu datblygu.

Yn 2010 dyfarnwyd Gwobr Artes Mundi 4 i Yael Bartana a fydd yn cynrychioli Gwlad Pwyl ym Miennale Fenis 2011. Dyfarnwyd y Wobr Artes Mundi gyntaf yn 2004 i Xu Bing, artist a aned yn Tsieina sy’n byw yn Efrog Newydd. Yn 2006 dyfarnwyd Gwobr Artes Mundi 2 i’r artist o’r Ffindir Eija-Liisa Ahtila, ac yn 2008 i’r artist o’r India NS Harsha.

Ariennir Artes Mundi’n gyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd.

Penodwyd Ben Borthwick yn Brif Weithredwr ac yn Gyfarwyddwr Artistig Artes Mundi yn 2010. Curadur ac awdur yw Ben sy’n arbenigo mewn celf gyfoes ryngwladol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar arferion cadarn sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol. Yn ystod saith mlynedd yn Tate Modern (2003-10) bu’n curadu arddangosfeydd gan gynnwys Gilbert a George, Latifa Echakhch, Rodchenko a Popova, The Irresistible Force a Rosa Barba, a bu’n gweithio’n agos â Bruce Nauman a Doris Salcedo ar eu comisiynau i Neuadd y Tyrbinau. Yn 2008, bu Borthwick yn cydsefydlu Butcher's, sefydliad celfyddydau di-elw sy’n cynhyrchu prosiectau mewn canolfannau ar y stryd fawr ac mewn gofodau cyhoeddus. Cyn gweithio yn Tate Modern, bu’n gweithio ar nifer o brosiectau celf gyhoeddus ag Artangel, Biennale Lerpwl a Sefydliad Henry Moore. Bydd yn ysgrifennu’n rheolaidd ar gyfer catalogau arddangosfeydd a chyhoeddiadau artistiaid a byddai’n cyfrannu’n rheolaidd i’r cylchgrawn cerddoriaeth The Wire rhwng 1998 a 2008.

Bydd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn agor 9 Gorffennaf 2011, gan arddangos ystod lawn casgliad y genedl o gelf safon fyd-eang o dan yr unto yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Am y tro cyntaf, dangosir cymysgedd Amgueddfa Cymru o gelf gain a chymhwysol, o’r hanesyddol i’r gyfoes, mewn un gyfres o orielau integredig, gan roi amlygrwydd newydd i gelf yng Nghymru ac i gelf Cymru.

Y gofod mwyaf o’i fath yng Nghymru fydd yr Adain Orllewinol - chwe oriel celf gyfoes newydd a thrawiadol. O’r blaen, dim ond un oriel oedd gan yr Amgueddfa i arddangos ei hystod o gelf fodern a chyfoes, sef un o gasgliadau pwysicaf y DU. Bydd y datblygiad hwn yn ehangu gofod yr Amgueddfa bron 800 metr sgwâr i ddangos cryfder ac amrywiaeth y gelf a gynhyrchir yng Nghymru ers y1950au, a sut y mae hyn yn perthyn i’r sîn ryngwladol.

Ailagorodd Mostyn ym mis Mai 2010 ar ôl bod ynghau am dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn aeth yr oriel drwy brosiect ehangu mawr a gynlluniwyd gan Benseiri Ellis Williams ac a dderbyniodd lawer o glod. Erbyn hyn, mae’n cynnwys chwe oriel sy’n cynnig rhaglen arddangosfeydd newidiol sy’n arddangos y gelf gyfoes orau o Gymru a’r DU, yn ogystal â gwaith gan artistiaid rhyngwladol. Mae Mostyn yn aelod o Plus Tate, partneriaeth o orielau cyfoes blaenllaw’r DU ac mae’n derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref Llandudno.


Am wybodaeth bellach i’r wasg, cysylltwch â:

Penny James
Gwasanaethau i’r Wasg a Marchnata Penny James
029 2076 6599.
penny.james@btopenworld.com

Am wybodaeth gyffredinol bellach am Artes Mundi cysylltwch â:

Lauren Curl
Artes Mundi, St Johns Chambers, Arcêd yr Heol Fawr, Caerdydd CF10 1BD
Ffôn: + 44 (0)29 2055 5300 neu info@artesmundi.org
www.artesmundi.org

Am wybodaeth bellach am Amgueddfa Gelf Cymru cysylltwch â:

Catrin Mears
Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd
Ffôn: +44 (0)29 2057 3185 neu catrin.mears@museumwales.ac.uk
www.museumwales.ac.uk

Am wybodaeth bellach am Mostyn cysylltwch â:

Nia Roberts
Mostyn, 12 Vaughan Street, Llandudno, LL30 1AB
Ffôn: +44 (0)1492 879201 neu nia@mostyn.org
www.mostyn.org

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245